Lleoliad:
Via Zoom
Dyddiad: Dydd Mawrth, 8 Mawrth 2022
Amser:
09.02 -
09.28
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Pwyllgor: |
Elin Jones AS, Llywydd (Cadeirydd) Lesley Griffiths AS Darren Millar AS Siân Gwenllian AS |
Staff y Pwyllgor: |
Graeme Francis (Clerc) Yan Thomas (Ddirprwy Gllerc) |
Eraill yn bresennol |
Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd Siwan Davies, Cyfarwyddwr Busnes y Senedd Siân Wilkins, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau Julian Luke, Pennaeth Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth, Helen Carey, Llywodraeth Cymru Alun Davidson, Gwasanaeth Trawsnewid Strategol |
1 Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon
Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r Pwyllgor. Anfonodd Jane Dodds a David Rees ymddiheuriadau.
2 Cofnodion y cyfarfod blaenorol
Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi
3 Trefn Busnes
3.1 Busnes yr wythnos hon
Dydd Mawrth
Tynnodd y Trefnydd sylw'r Pwyllgor Busnes at y newidiadau a ganlyn i fusnes dydd Mawrth:
Esboniodd y Trefnydd fod Llywodraeth Cymru wedi gosod Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Rhif 2) ar y Bil Rhent Masnachol (Coronafeirws) ar 3 Mawrth, ar ôl i'r cynnig gwreiddiol ar gyfer y ddadl gael ei gyflwyno. Felly, er mwyn sicrhau eglurder i'r Senedd, cafodd y cynnig ei dynnu yn ôl a'i ddisodli ar 7 Mawrth ac mae angen cynnig i atal y Rheolau Sefydlog er mwyn gallu trafod y cynnig newydd.
Dydd Mercher
3.2 Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf
Tynnodd y Trefnydd sylw'r Pwyllgor Busnes at y newidiadau a ganlyn:
Dydd Mawrth 15 Mawrth 2022 -
· Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Datblygu Cynllun Masnachu Allyriadau Net Sero Cyson y DU (45 munud)
Dydd Mawrth 22 Mawrth 2022 -
· Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Y Gronfa Tai â Gofal (45 munud)
· Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i drafod yr eitemau a ganlyn gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân (15 munud)
· Rheoliadau’r Dreth Gyngor (Anheddau Gwag Hirdymor ac Anheddau a Feddiennir yn Gyfnodol) (Cymru) 2022 (30 munud)
·
Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y
Bil Diogelwch Adeiladau (30 15 munud)
Yng ngoleuni’r ffaith y rhagwelir nifer o achosion pan fydd y Cyfarfod Llawn yn gorffen yn hwyr ar ddydd Mawrth, cynigiodd Darren Millar y gallai fod yn fuddiol dychwelyd at amserlennu datganiadau’r llywodraeth fel mater o drefn am 30 munud ac eithrio pan fydd diddordeb sylweddol gan Aelodau. Trafododd y Pwyllgor Busnes oblygiadau hyn i nifer yr Aelodau y byddai modd eu galw a chytunwyd y dylai'r Llywodraeth ystyried hyn wrth iddi amserlennu busnes.
3.3 Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:
Dydd Mercher 30 Mawrth 2022 -
· Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol: 'Gwarchod y Dyfodol: Y rhwystr gofal plant sy’n wynebu rhieni sy’n gweithio’ (60 munud)
· Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
· Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
· Dadl fer - Adam Price (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr) (30 munud)
4 Deddfwriaeth
4.1 Diweddariad ar Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol
Cafodd y Pwyllgor Busnes y wybodaeth ddiweddaraf am y Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol cyfredol a chytunodd:
5 Amserlen y Pwyllgorau
5.1 Adolygiad o amserlen y pwyllgorau a chylchoedd gwaith y pwyllgorau
Adolygiad o amserlen y Pwyllgor
Rhoddodd y Rheolwyr Busnes adborth o’u trafodaethau gyda grwpiau a chytunwyd ar y cynigion ar gyfer amserlen ddiwygiedig i’r pwyllgorau i’w gweithredu ar ôl toriad y Pasg, gan ymgorffori un newid i’r cynnig gwreiddiol (yn ymwneud ag amserlen slot cyfarfod ar gyfer y Pwyllgor Cyllid Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus) yn dilyn ymgynghoriad â Fforwm y Cadeiryddion.
Bydd yr amserlen ddiwygiedig yn rhoi slot cyfarfod bob pythefnos i'r mwyafrif o bwyllgorau ond gyda slotiau wrth gefn wedi'u clustnodi ar gyfer cyfarfodydd ychwanegol lle bo angen. Nid yw bellach yn cynnwys wythnosau gwarchodedig.
Bydd y Pwyllgor Busnes yn llunio adroddiad yn manylu ar y broses adolygu a’r canlyniad.